Welcoming the new content, soon to be available on BBC Sounds, Gruffudd Pritchard, Content Editor BBC Cymru Fyw and Radio Cymru says: “Over the last year and a half we’ve had the pleasure of working with a variety of talented producers on a collection of new Welsh podcasts. BBC Sounds offers an amazing opportunity as a platform for new voices and perspectives.”
Fy Nhro Cyntaf (My First Time) is a light-hearted podcast coming to BBC Sounds on Thursday 19 November. A crew of young BBC Sesh voices - familiar to the followers of the social media account – will talk openly and candidly about their personal experiences.
Regular BBC Sesh contributor Siôn Owen says: “I really enjoyed making this podcast where I talk about the first time I did a number of things… and let’s be honest, most of them are quite embarrassing. I hope you enjoy the podcast – I know I did.”
Digon (Enough) with Non Parry will be available on BBC Sounds in December, with the singer from the popular group Eden discussing different aspects of mental health in the company of guests –including Caryl Parry Jones, Mari Lovgreen a Meilir Rhys Williams.
Non says: “After speaking publicly about my mental health, it became obvious that I wasn’t alone. I think we can all relate to the pressure to be perfect, more ‘this’, or less ‘that’. Why can’t we just be enough? In this series I’ll be sharing personal and very honest stories and experiences with some familiar faces – who have also, on occasion, felt less than enough, and offer advice and comfort."
Hanes Mawr Cymru (Wales’ Big History) by writer Llinos Mai is a lively series for Year 5 and 6 pupils. Coming to BBC Sounds before Christmas, the podcast will introduce a young audience to aspects of Welsh history in a light-hearted and fun way.
Eary next year, BBC Radio Cymru’s Aled Hughes will be getting to know some of Wales’ most interesting people in a brand new podcast. There will also be a second series of Siarad Secs (Talking Sex) coming soon, with Lisa Angharad talking frankly and honestly about sex and sexuality. And there will be new episodes of Dwy Iaith Un Ymenydd (Two Languages One Brain) with comedian Elis James available in the new year.
And there are two weekly podcasts available on BBC Sounds - Gwleidydda (Politics) and Y Coridor Ansicrwydd (The Corridor of Uncertainty).
SG
CYHOEDDI PODLEDIADAU NEWYDD YN GYMRAEG
Heddiw (Gwener 13 Tachwedd) mae BBC Cymru yn cyhoeddi nifer o bodlediadau newydd ac amrywiol yn Gymraeg.
Wrth groesawu’r podlediadau newydd dywedodd Gruffudd Pritchard, Golygydd Cynnwys, BBC Cymru Fyw a Radio Cymru: “Yn ystod y deunaw mis diwethaf yr ydym wedi cael pleser o gyd-weithio gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr talentog ar gasgliad o bodlediadau newydd yn Gymraeg. Mae BBC Sounds yn gyfle gwych i ni roi llwyfan i leisiau a safbwyntiau newydd, ac rydym yn gobeithio bydd y gynulleidfa yn mwynhau darganfod y don newydd yma o gynnwys Cymraeg."
Pod llawn chwerthin yw Fy Nhro Cyntaf, fydd yn dod i BBC Sounds dydd Iau (19 Tachwedd). Bydd criw o leisiau ifanc BBC Sesh – sy’n adnabyddus i ddilynwyr y cyfri ar y cyfryngau cymdeithasol - yn trafod profiadau personol mewn ffordd agored ac agos at yr asgwrn.
Meddai Siôn Owen sy’n gyfrannwr cyson i BBC Sesh: “Nes i wir fwynhau neud y podlediad ma, lle dwi’n sôn am fy nhro cyntaf yn neud amryw o bethau… efo’r rhan fwyaf yn dueddol i fod yn reit embarassing i ddweud y gwir. Gobeithio newch chi fwynhau’r podlediad – dwi’n gwbod y nes i.”
Meddai Mared Parry o BBC Sesh: “Ma recordio’r podcast efo’r ‘gang’ wedi bod yn llawn sypreises a dwi mor excited i bawb gael clywad ni’n mwydro!”
Bydd Digon, gyda Non Parry ar gael ar BBC Sounds ym mis Rhagfyr, gyda’r gantores o’r grŵp Eden yn trafod gwahanol agweddau ar iechyd meddwl yng nghwmni gwesteion - fydd yn cynnwys Caryl Parry Jones, Mari Lovgreen a Meilir Rhys Williams.
Meddai Non: ”Ar ôl siarad yn gyhoeddus am fy iechyd meddwl, fe ddaeth yn amlwg nad oeddwn i ar ben fy hun. Dwi’n credu ein bod ni gyd yn gallu uniaethu gyda’r pwysau i fod yn berffaith, yn fwy ‘hyn’ neu’n llai ‘llall’. Pam na allwn ni just bod yn ddigon? Yn y gyfres yma byddai’n rhannu profiadau a straeon personol a gonest ofnadwy gyda gwynebau adnabyddus - sydd hefyd ar brydiau wedi teimlo’n llai na digon, a chynnig cyngor a chysur trwy sgyrsie cyfeillgar a chynnes."
Mae Hanes Mawr Cymru gan y sgwenwraig Llinos Mai yn gyfres fywiog i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6. Yn cyrraedd BBC Sounds cyn y Nadolig, fe fydd y podlediad yn cyflwyno agweddau o hanes Cymru i gynulleidfa ifanc mewn ffordd ysgafn a hwyliog.
Yn y flwyddyn newydd fe fydd Aled Hughes yn dod i adnabod rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru mewn podlediad newydd sbon.
Bydd hefyd ail-gyfres o Siarad Secs yn dod yn fuan, gyda Lisa Angharad a'i gwesteion yn siarad mwy am ryw a rhywioldeb yn agored a gonest. Bydd pennodau newydd sbon o Dwy Iaith Un Ymenydd gyda’r comediwr Elis James hefyd i’w clywed yn y flwyddyn newydd.
Ac mae dau bodlediad wythnosol yn parhau i fod ar gael ar BBC Sounds - Gwleidydda ac Y Coridor Ansicrwydd.