2018/10/30

Mae'r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn dathlu 100,000 o ymweliadau tudalen yn ei flwyddyn gyntaf

Mae’r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus a 100,000 o ymweliadau tudalen.

Dywed sylfaenydd a rheolwr y prosiect, Neil Rowlands: “Pwrpas parallel.cymru yw gwneud yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn fwy cyraeddadwy. Gwneir hyn drwy gyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg ochr wrth ochr, gan ddefnyddio ystod o gyweiriau iaith (anffurfiol, ffurfiol a llenyddol), a hynny’n rhad ac am ddim; a gellir cael mynediad iddo o unrhyw borwr gwe mewn unrhyw fan yn y byd.

“Rwy’n hynod o hapus bod miloedd o bobl wedi mwynhau darllen yr erthyglau niferus a’r adnoddau unigryw. Mae cyflwynwyr fel Huw Stephens ac Eleri Siôn, awduron cydnabyddedig fel y geiriadurwr D. Geraint Lewis, David Jandrell a’i ‘Welsh Valleys Humour’, Bethan Gwanas, Elin Meek a llawer mwy wedi ysgrifennu ar gyfer y wefan. Yn ogystal, mae yna adnoddau fel mapiau siopau, tafarndai a mannau cyhoeddus lle y defnyddir y Gymraeg, canllaw dwyieithog i ramadeg, cwisiau rhyngweithiol, ac mae rhai erthyglau wedi eu hadrodd hefyd fel bod pobl yn gallu darllen a chlywed y Gymraeg ar yr un pryd.”

“Er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050, mae angen i ni ehangu’r defnydd o’r iaith a’i chyflwyno mewn gwahanol ffyrdd. Mae parallel.cymru, fel sefydliad annibynnol, dielw, yn ymgorfforiad o’r ysbryd a’r egni hwn.”

“Mae dros 140 o bobl wedi darparu cynnwys i parallel.cymru, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am gefnogi dull newydd a gwahanol o argraffu. Edrychaf ymlaen at gefnogi llawer iawn mwy o gyfranwyr i’r wefan, a hefyd i helpu nifer fawr o bobl i fwynhau ein hiaith brydferth mewn ffordd newydd a dyfeisgar.”

Meddai Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr, Y Lolfa: "Mae’n wych gweld sut mae Parallel.cymru wedi datblygu dros y misoedd diwethaf i fod yn wefan anhepgor i ddysgwyr ac yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth a deunydd i bobl sydd am gadw bys ar byls Cymru. Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Neil a’r criw, ac fel gwasg rydym yn gwerthfawrogi yn fawr eu bod yn cynnig llwyfan newydd, hawdd i’w gyrraedd, i drin a thrafod ein gwaith a rydym yn eu llongyfarch yn fawr ar gyrraedd y 100,000."